Mae Trafnidiaeth Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn gofyn i bobol ddilyn canllawiau ymbellháu cymdeithasol ar gyfer y coronafeirws, wrth iddyn nhw fynd i’r afael â chynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Er bod nifer y teithwyr wedi gostwng – gyda’r rhan fwyaf sy’n defnyddio trenau ar hyn o bryd yn weithwyr iechyd a gwasanaethau hanfodol eraill – mae nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ar gynnydd.
Mae enghreifftiau o’r fath ymddygiad yn cynnwys peidio â chadw’n ddigon pell oddi wrth ei gilydd, ac mae’r heddlu am sicrhau bod digon o blismyn ar drenau ac mewn gorsafoedd er mwyn cefnogi gweithwyr a theithwyr.
‘Nid trenau a gorsafoedd yw’r llefydd i ymgynnull’
“Mae Trafnidiaeth Cymru’n parhau i gefnogi’r holl ymdrechion i leihau effaith y feirws ofnadwy yma, gan weithio’n galed i sicrhau bod gweithwyr allweddol yn gallu parhau i deithio,” meddai Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Sicrwydd Trafnidiaeth Cymru.
“Rydym yn gwybod ei fod yn amser anodd gyda chau ysgolion a’r effaith ar gynulliadau cymdeithasol, ond nid trenau a gorsafoedd yw’r llefydd i ymgynnull.
“Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw gwasanaethau hanfodol i redeg.
“Mae staff y gwasanaethau brys sy’n defnyddio ein trenau a gweithwyr alweddol yn haeddu gallu teithio’n ddiogel ac yn hyderus.
“Rwy’n annog pob person ifanc yn benodol, sydd efallai’n ystyried defnyddio gwasanaethau rheilffordd, i ddilyn arweiniad Iechyd Cyhoeddus, ymddwyn yn gyfrifol ac i’w rhieni i annog hyn hefyd.
“Mae’n hanfodol ein bod ni’n parchu ein cymuned a phobol Cymru a’r Gororau sy’n gweithio’n galed.”