Mae Adam Price wedi ysgrifennu llythyr at y prif weinidog Mark Drakeford yn galw am wahardd pobol rhag teithio i gefn gwlad Cymru i ynysu eu hunain yn sgil y coronafeirws.

Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, dylid cau parciau carafanau ac atal pobol rhag teithio i’w hail gartrefi ac i leoliadau gwyliau.

Mae’n rhybuddio bod mewnlifiad sylweddol o bobol yn rhoi mwy o bwysau ar y Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol sydd eisoes dan bwysau yn sgil y feirws.

Mae teithwyr yn cael eu hannog i gadw draw o draethau a lleoliadau gwyliau eraill, wrth i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gau ei holl leoliadau.

Fe fu farw pump o bobol o’r coronafeirws yng Nghymru erbyn hyn, gydag 89 yn rhagor wedi profi’n bositif, gan ddod â’r nifer i 280.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi cyfres o fesurau i atal y feirws rhag ymledu ymhellach, gan gynnwys gofyn i gyn-feddygon a nyrsys ddychwelyd i’r gwaith.

‘Dim cysondeb’

Yn ôl Adam Price, mae angen cysondeb yn y modd mae busnesau’n ymateb i’r feirws.

“Mae arweinwyr gwleidyddol lleol, meddygon teulu, byrddau iechyd ac aelodau’r cyhoedd mewn rhannau o’r wlad sydd, mewn cyfnodau arferol, yn lleoliadau gwyliau poblogaidd – sy’n ddealladwy o ystyried eu harddwch naturiol a’u lleoliad ger yr arfordir – wedi  mynegi pryder am symudiad torfol o’r boblogaeth i mewn i’r cymunedau hyn oherwydd yr heriau y bydd mwy o alw’n eu hachosi i wasanaethau lleol,” meddai.

“Tra ’mod i’n ymwybodol bod rhai parciau gwyliau wedi penderfynu chwarae eu rhan wrth leihau’r galw posib ar wasanaethau sydd eisoes heb adnoddau digonol yn y cymunedau hyn drwy gau’n wirfoddol, dw i’n deall nad yw hyn yn gyson.

“Pryder arall yw fod ail gartrefi nad ydyn nhw fel arfer yn llawn ar yr adeg hon yn y flwyddyn bellach yn cael eu defnyddio wrth i bobol geisio cilio i gefn gwlad ac i’r arfordir.”

‘Arweiniad gan Lywodraeth Cymru’

Yn ôl Adam Price, mae angen i Lywodraeth Cymru gamu i mewn er mwyn datrys y sefyllfa.

“Er mwyn sicrhau dull cyson a rheoli’r galw ar wasanaethau lleol yn yr ardaloedd hyn, dw i’n credu ei bod hi’n bryd i Lywodraeth Cymru roi arweiniad,” meddai.

“Dw i’n gofyn fod camau brys yn cael eu cymryd er mwyn osgoi pwysau ychwanegol diangen ar ein system iechyd a gofal cymdeithasol ar yr adeg anodd hon.

“Dylid gwneud hyn yn glir drwy ymgynghori â llywodraethau eraill, gan weithredu ar y cyd lle bo’n bosib, ond yn annibynnol os oes angen.

“Mae Cymru eisoes yn wynebu heriau penodol wrth ymateb i Covid-19 – poblogaeth sy’n heneiddio, cyfran uwch â chyflyrau iechyd eisoes a nifer o wlâu gofal dwys sy’n is na’r cyfartaledd – sy’n cyfiawnhau gweithredu cyflym ac unedig.”