Mae Archesgob Cymru’n galw yn ei neges Sul y Mamau ar bobol sydd ag amser i helpu pobol mewn angen.
Mae’r Gwir Barchedig John Davies yn cyfeirio’i neges at y rhai sy’n dilyn cyrsiau coleg neu sydd wedi gweld eu gwaith yn dod i ben dros dro yn sgil y coronafeirws, ac yn eu hannog nhw i helpu grwpiau cymunedol sydd wedi cael eu sefydlu i ymateb i’r argyfwng cymdeithasol.
Ac fe ddaw wrth i gapeli ac eglwysi ohirio gwasanaethau am y tro, a chynnig gwahanol fathau o addoli.
‘Gwnewch rywbeth positif’
“Mae Sul y Mamau’n ddiwrnod pan fydd pobol eisiau canolbwyntio â diolchgarwch ar yr hyn mae eu mamau wedi ei wneud drostyn nhw yn eu bywydau,” meddai mewn neges fideo.
“Os yw eich cynlluniau ar gyfer y diwrnod wedi cael eu heffeithio, os oes gennych chi amser y byddech chi wedi bod yn ei ddefnyddio i wneud rhywbeth arall, peidiwch â gwastraffu’r amser hwnnw.
“P’un a ydych chi’n absennol o’r brifysgol neu’r coleg, p’un a ydych chi yn y gwaith neu beidio – beth bynnag yw’r sefyllfa – defnyddiwch yr amser sydd gennych chi i wneud rhywbeth positif.
“Yn fy nghymuned leol yn Aberhonddu, mae grwpiau’n codi a phobol yn dod ynghyd i wneud cynlluniau i ddefnyddio’u hamser yn ddoeth i helpu eraill.
“Felly pam na wnewch chi weld a oes rhywbeth y gallwch chi ei wneud gyda’r fath grwpiau i helpu pobol eraill.”