Mae dau berson arall wedi marw yn sgil y coronafeirws yng Nghymru.

Daeth cadarnhad gan Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru fod y ffigwr cenedlaethol wedi codi i bump.

Unigolion 75 a 98 oed yw’r diweddaraf i golli eu bywydau yn sgil y feirws, y naill yn Ysbyty Singleton yn Abertawe, a’r llall yn Ysbyty Gwynedd.

Roedd y ddau yn dioddef o gyflyrau iechyd eraill.