Mae’r pêl-droediwr Peter Whittingham wedi marw’n 35 oed.

Fe gwympodd cyn-chwaraewr Caerdydd mewn tafarn yn y Barri ar Fawrth 7 a chael anafiadau i’w ben.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, lle bu farw.

Does dim tystiolaeth o unrhyw drosedd ar hyn o bryd, ac mae’n ymddangos ei fod e wedi cwympo trwy ddamwain, ac mae’r crwner wedi cael gwybod.

Gyrfa

Dechreuodd Peter Whittingham ei yrfa gydag Aston Villa, gan chwarae mwy na 50 o weithiau ac ennill 17 o gapiau dros dîm dan 21 Lloegr.

Ymunodd e â Chaerdydd yn 2007, gan fynd yn ei flaen i chwarae 459 o weithiau a sgorio 98 o goliau, cyn ymuno â Blackburn yn 2017.

Yn ystod 13 o flynyddoedd gyda’r Adar Gleision, roedd e’n aelod o’r garfan a gyrhaeddodd rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn 2008, rownd derfynol Cwpan y Gynghrair yn 2012 ac a enillodd ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair yn 2013.

Fe wnaeth e enw iddo’i hyn yn y crys glas am sgorio goliau o bell.

Cafodd ei enwi yn nhîm y degawd y Gynghrair Bêl-droed rhwng 2005 a 2015.

Teyrnged

Mewn teyrnged, dywed Clwb Pêl-droed Caerdydd eu bod nhw’n “torri eu calonnau”.

“Mae’r newyddion am farwolaeth sydyn a disymwth Peter wedi ein siglo ni i’n seiliau,” meddai’r clwb.

“Rydym yn estyn ein cariad i’w wraig Amanda, eu mab ifanc a’r teulu.

“Maen nhw’n flaenllaw yn ein meddyliau ac ar eu rhan nhw, gofynnwn i chi barchu eu preifatrwydd ar yr adeg annealladwy o greulon ac anodd.

“Yn bennaf oll, dyn teulu oedd Peter, rhywun oedd yn gallu goleuo ystafell gyda’i synnwyr digrifwch, ei gynhesrwydd a’i bersonoliaeth.

“Yna, fel pêl-droediwr proffesiynol, fel Aderyn Glas, roedd e’n rhagori â’i ddawn, rhwyddineb, urddas a’i ostyngeiddrwydd. Doedd neb yn ei wneud e’n well.

“Bydd colli Peter yn cael ei deimlo’n boenus gan ein dinas, ein cefnogwyr ac, yn wir, gan bawb a gafodd y pleser o’i adnabod e.

“Rydym yn dy garu di, Peter a bydd yr atgof ohonot ti’n aros gyda ni am byth.”