Mae camau pellach wedi’u cymryd er mwyn helpu busnesau bach i ddygymod â’r argyfwng ariannol yn sgil y coronafeirws.
Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd y camau yn gyfwerth â phecyn £1.4bn, ac mi fydd yn golygu bod busnesau Cymru yn derbyn yr un faint o gymorth a’r rheiny yn Lloegr.
Fydd dim rhaid i fusnesau fel siopau a thafarndai dalu treth busnes am flwyddyn; a bydd grant £25,000 yn cael ei gynnig i fusnesau’r sectorau yma.
Bydd yn rhaid bod gan y busnesau gwerth trethiannol o £12,001-£51,000, ond bydd grant hefyd ar gael i’r rheiny sydd â gwerth £12,000 neu lai.
Daw hyn oll yn sgil beirniadaeth gan fusnesau ledled y wlad, ac mae un dyn busnes wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o chwarae “ping pong gwleidyddol”.
“Argyfwng cenedlaethol”
Wrth gyhoeddi’r pecyn dywedodd Gweinidog yr Economi bod Llywodraeth Cymru’n “parhau i weithio” â Llywodraeth San Steffan yn ystod yr “argyfwng cenedlaethol” yma.
“Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd mae’r gymuned busnes eu hangen yn ystod y cyfnod anodd yma,” meddai Ken Skates. “Mae’r cyhoeddiad yma yn enghraifft glir o’n hymdrechion i frwydro tros hynny…
“Does dim modd gorbwysleisio pwysigrwydd busnesau bach a phobol hunangyflogedig – sydd heb eiddo y gellir ei drethi. Rydym yn ystyried pa gefnogaeth bellach gallwn ninnau a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei darparu.”
Mae hefyd wedi dweud ei fod yn gobeithio cyflwyno saib i daliadau Yswiriant Cenedlaethol, a’i fod am roi cymorth ariannol i gyflogau.