Mae amodau wedi’u gosod ar weithiwr cymdeithasol o Gaerdydd am 12 mis ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru glywed ei fod wedi anfon lluniau amhriodol o oedolion o’i e-bost gwaith.

Cyfaddefodd Sean Wharton iddo anfon lluniau amhriodol o oedolion a fideo amhriodol o natur rywiol o ddau oedolyn o’i e-bost gwaith.

Esboniodd Sean Wharton mai damwain oedd y digwyddiad gan ei fod yn rhan o grŵp cyfryngau cymdeithasol ar ei ffôn symudol.

Roedd ganddo gysylltiad â’i e-bost gwaith a phersonol ar ei ffôn, ac fe’u hanfonodd yn ddamweiniol o’i gyfrif gwaith yn hytrach na’i gyfrif personol.

Cyfaddefodd Sean Wharton i bedwar cyhuddiad arall hefyd, sef:

  • methu â sicrhau iddo gofnodi achos dros gyfnod o bedair blynedd
  • methu â chynnal ymweliadau goruchwylio addas a rhoi cymorth priodol i ofalwr maeth
  • ymddwyn yn amhriodol trwy anfon a derbyn gwybodaeth gyfrinachol, fel enwau plant, cofnodion gofalwyr maeth ac adroddiadau meddygol trwy gyfrifon e-bost preifat.

Wrth egluro eu penderfyniad, dywed y panel fod camymddwyn difrifol wedi amharu ar addasrwydd Mr Wharton i ymarfer ar hyn o bryd.

“Mae natur eich gwaith yn golygu y byddwch yn wynebu amgylchiadau heriol os byddwch yn dychwelyd i ymarfer,” meddai.