Mae pedwar Aelod Cynulliad arall wedi penderfynu ynysu eu hunain yn sgil y coronafeirws, wrth i fusnes y Cynulliad ddod i ben am y tro.

Mae’r newyddion am Neil McEvoy, Llŷr Gruffydd, Vaughan Gething a Mark Reckless yn dilyn cyhoeddiad Adam Price, yr Aelod Cynulliad cyntaf i ynysu ei hun.

Dywed arweinydd Plaid Cymru ar ei dudalen Twitter fod gan ei fab symptomau’r firws.

Mae Mark Reckless, arweinydd grŵp seneddol Plaid Brexit, wedi bod yn profi symptomau oedd yn “gyson” â’r firws.

Mae Neil McEvoy, Aelod Cynulliad annibynnol dros Ganol De Cymru, wedi ynysu ei hun ar ôl i’w wraig ddatblygu symptomau.

“Mae un o ‘mhlant yn dangos symptomau covid-19 felly’n unol â’r cyngor dwi’n hunan-ynysu am 14 diwrnod,” meddai Llŷr Gruffydd ar Twitter.

“Byddaf yn gweithio o adref gorau medraf.”

Y Gweinidog Iechyd yn ynysu ei hun

A’r Aelod Cynulliad diweddaraf i gyhoeddi ei fod yn hunan ynysu yw’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething.

Dywed ei fod yn cymryd y cam oherwydd bod ei fab wedi dechrau dangos symptomau o coronafeirws.