Mae Alex Salmond wedi dweud wrth lys bod rhai o’r cyhuddiadau yn ei erbyn wedi eu “ffugio am resymau gwleidyddol.”

Dechreuodd cyn-Brif Weinidog yr Alban roi tystiolaeth yn y llys yng Nghaeredin heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 17).

Mae’n wynebu 13 cyhuddiad o droseddau rhyw yn erbyn naw dynes, ac mae’n gwadu’r cyfan.

“O le dwi’n sefyll nawr, hoffwn petawn i wedi bod yn fwy gofalus gyda gofod personol pobol, ond doedd gen i ddim bwriad o bechu neb,” meddai Alex Salmond.

“Ond yn fy marn i, am amryw o resymau, mae pethau’n cael eu hail-ddehongli a’u gorliwio.”

“Mae yna ddau reswm – un yw bod rhai o’r cyhuddiadau, os nad pob un, wedi eu ffugio am resymau gwleidyddol ac mae rhai wedi cael eu gorliwio,” meddai wedyn wrth gael ei holi pam.

Dieuog

Cafwyd e’n ddieuog o un cyhuddiad o ymosod yn rhywiol ddoe (dydd Llun, Mawrth 16) oherwydd na chyflwynodd y Goron unrhyw dystiolaeth.

Mae’r cyhuddiadau yn ei erbyn yn dyddio’n ôl rhwng Mehefin 29, 2008 a Thachwedd 11, 2014.

Mae ei gyfreithwyr wedi cyflwyno amddiffyniad o gydsynio ac alibi.

Mae’r achos gerbron y Foneddiges Dorrian yn parhau.