Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi rhoi 35 o brydau bwyd i bobol ddigartef y ddinas ar ôl i gemau’r Gynghrair Bêl-droed gael eu canslo oherwydd coronavirus.
Roedd 35 o brydau wedi cael eu paratoi ar gyfer y daith awyren i ogledd-ddwyrain Lloegr heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 13).
Daeth y newyddion am ganslo’r gemau wrth i’r Elyrch ymarfer ar safle hyfforddi Fairwood ar gyrion y ddinas, ac roedd y bwyd yn cael ei baratoi gan Chris Watkins, cogydd y clwb.
Fydd dim gemau’n cael eu cynnal tan o leiaf Ebrill 3 yn dilyn cyfarfod o benaethiaid y Gynghrair Bêl-droed.
Roedd y prydau’n cynnwys brechdanau panini, cyw iâr, tatws a rholiau bara ac maen nhw wedi’u rhoi i Eglwys y Ddinas yn ardal Dyfatty, sy’n gyfrifol am raglen i58 sy’n rhoi prydau rhad ac am ddim i drigolion digartre’r ddinas bob penwythnos.