Wrth i Lywodraeth Prydain fethu â chanslo chwaraeon fel rhan o’u camau i fynd i’r afael â coronavirus, mae cyrff y campau unigol wedi gwneud penderfyniadau drostyn nhw eu hunain a fydd gemau’n cael eu cynnal dros y misoedd nesaf.

Mae’r holl gemau pêl-droed yng Nghynghrair Cymru wedi’u canslo, ynghyd â gemau Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd yng Nghynghrair Bêl-droed Lloegr a Wrecsam yn y Gynghrair Genedlaethol.

Mae clybiau hefyd wedi’u cynghori i gyfyngu eu gweithgareddau yn y gymuned am y tro.

Mae hyn yn cynnwys yr Uwch Gynghrair, y Bencampwriaeth, yr Adran Gyntaf a’r Ail Adran, a chystadlaethau’r merched a’r timau ieuenctid.

Fydd gemau yn y cynghreiriau hynny ddim yn cael eu cynnal tan o leiaf benwythnos Ebrill 3-4.

Yn ôl y Gynghrair Bêl-droed, maen nhw’n “blaenoriaethu iechyd a lles chwaraewyr, staff a chefnogwyr ond yn cydnabod ymdrechion cenedlaethol y Llywodraeth wrth ymdrin â’r haint yma”.

Ond dydy gemau Cynghrair Cenedlaethol Vanarama ddim wedi’u canslo, sy’n golygu y bydd tymor Wrecsam yn parhau am y tro, er bod eu gêm yn erbyn Barrow heddiw wedi’i chanslo ar ôl i un o’r chwaraewyr ynysu ei hun.

Gemau rhyngwladol Cymru

Mae Cymru wedi canslo’u gemau cyfeillgar yn erbyn yr Unol Daleithiau yng Nghaerdydd ac Awstria yn Abertawe.

Mae adroddiadau y bydd penderfyniad ddydd Mawrth a fydd Ewro 2020 yn cael ei chynnal, wrth i Gymru baratoi i deithio i Rufain a Baku yn yr haf.

Rygbi

Gyda thimau o’r Eidal yn cystadlu yng nghynghrair y PRO14, fydd pedair rhanbarth Cymru – y Gweilch, y Scarlets, y Gleision a’r Dreigiau – ddim yn chwarae am y tro.

Ac fe ddaeth penderfyniad ddoe (dydd Gwener, Mawrth 13) yn dilyn cryn bwysau gan y cyhoedd na fydd gêm Cymru yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn cael ei chynnal heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 14).

Mewn datganiad, dywed Undeb Rygbi Cymru iddyn nhw gynnal “trafodaeth agored a cheisio cyngor ac arweiniad gan Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys y Chwe Gwlad, ar y mater hwn sy’n symud yn gyflym”.

Ac maen nhw’n dweud iddyn nhw benderfynu canslo’r gêm “er bod cyngor meddygol yn aros yn gyson” [na ddylid canslo gemau], a hynny “er lles cefnogwyr, chwaraewyr a staff yn unol â mesurau diweddar ledled y Deyrnas Unedig a diwydiannau chwaraeon byd-eang”.

Byddan nhw’n cyhoeddi manylion am ad-drefnu’r gêm “yn y dyddiau nesaf”, gan bwysleisio mai “gohirio oedd yr unig opsiwn posib yn y pen draw”.

Criced

Wythnosau’n unig cyn i’r tymor criced ddechrau, mae Clwb Criced Morgannwg wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n mynd i La Manga fel rhan o’u paratoadau ar gyfer y tymor newydd.

Roedd disgwyl iddyn nhw deithio i Sbaen yr wythnos nesaf ond mae eu gemau yn erbyn Swydd Gaerloyw bellach wedi’u canslo.

Mae disgwyl ar hyn o bryd i’w gemau paratoadol yng Nghaerdydd fynd yn eu blaenau, ond bydd y clwb yn cyhoeddi rhagor o fanylion maes o law.

Maen nhw wedi cyhoeddi cyngor i bobol sy’n ymweld â Gerddi Sophia ar gyfer cynadleddau busnes a gweithgareddau criced, gan ddweud eu bod nhw hefyd yn dilyn cyngor Llywodraeth Prydain ond yn cyflwyno mesurau glanhau trylwyr a chanllawiau ar gyfer ymwelwyr sy’n cael eu taro’n wael yn y stadiwm.

Hoci iâ

Daeth cadarnhad ddoe hefyd na fydd Devils Caerdydd yn chwarae am weddill y tymor, ar ôl i’r Gynghrair Elit gael ei chanslo.

Roedd disgwyl i gemau gael eu cynnal, ond mae chwaraewyr dau glwb wedi ynysu eu hunain ac roedd pryderon am dorfeydd yn yr Alban.

Devils Caerdydd oedd ar frig y gynghrair pan gafodd ei chanslo.

Athletau

Daeth cadarnhad yn hwyr neithiwr ymhellach na fydd Marathon Llundain yn cael ei chynnal ar Ebrill 26, a’i bod wedi cael ei symud i Hydref 4.

Ond gyda Gemau Olympaidd Tokyo ar y gorwel, bydd digwyddiad cymhwyso arbennig yn cael ei drefnu ar gyfer rhedwyr marathon.

Dartiau

Mae’r Cymro Gerwyn Price yn cystadlu yn yr Uwch Gynghrair Dartiau, ond mae’r gemau oedd i’w cynnal ar Fawrth 25-26 yn yr Iseldiroedd wedi’u symud i Fedi 9-10.