Mae wedi dod i’r amlwg bod yr achos cyntaf o coronafeirws wedi cael ei gadarnhau ar Ynys Môn.

Daw hyn wrth i’r nifer o achosion yng Nghymru gyrraedd 38.

Mae Aelod Cynulliad yr ynys, Rhun ap Iorwerth wedi bod mewn cysylltiad gyda theulu’r unigolyn heintiedig ac mae’n mynnu nad yw’r person wedi “gweld unrhyw un yn Ynys Môn na Chymru ers wythnosau”.

“Mae o wedi hunan-ynysu, dyna yw’r sefyllfa o ran yr un prawf yma yn Ynys Môn,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Wrth gwrs, mae’n debygol y bydd yna fwy o achosion positif yn Ynys Môn dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf.

“Dyna pam ei bod hi’n bwysig iawn ein bod ni’n cymryd y camau synhwyrol hynny o olchi’n dwylo, peidio â chyffwrdd â’n gwynebau ac yn y blaen.”

Rhagor o achosion yng Nghymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau bod yna 13 achos newydd o coronafeirws – gan ddod â’r cyfanswm i 38.

Dywed Dr Robin Howe, Cyfarwyddwr Ymateb ymlediad coronafeirws ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru, fod yr achosion diweddaraf o ran siroedd fel yr isod:

  • Pedwar achos yn Sir Caerffili
  • Dau yn Sir Abertawe
  • Un yn Ynys Môn
  • Un yn Sir Caerdydd
  • Un yn Sir Gaerfyrddin
  • Un yn Sir Fynwy
  • Un yn Sir y Fflint
  • Un yn Sir Casnewydd
  • Un yn Sir Powys.

Mae 945 o bobl yng Nghymru wedi cael prawf am goronafeirws bellach.

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n gweithio gyda’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ehangach yng Nghymru ac eraill gan ein bod wedi dechrau ar y cymal o geisio oedi ymlediad yr haint fel rhan o Gynllun Gweithredu Coronafeirws y Deyrnas Unedig,” meddai Dr Robin Howe.

Datganiad Rhun ap Iorwerth