Mae Heddlu Dorset yn dweud na fyddan nhw’n dwyn achos yn erbyn dyn 64 oed o Ogledd Swydd Efrog oedd wedi’i arestio ar amheuaeth o ddynladdiad y pêl-droediwr Emiliano Sala.

Cafodd y dyn ei arestio ym mis Mehefin.

Roedd y cyhuddiadau’n ymwneud â’r gwrthdrawiad a laddodd ymosodwr tîm pêl-droed Caerdydd, oedd newydd symud o glwb Nantes yn Llydaw adeg y ddamwain ar Ionawr 21 y llynedd.

Roedd yr Archentwr 28 oed yn hedfan o Nantes i Gaerdydd pan blymiodd ei awyren i’r Sianel.

Dydy corff y peilot David Ibbotson ddim wedi cael ei ganfod hyd heddiw.