Beth Mooney o Awstralia yw’r chwaraewraig ddiweddaraf i gael ei chyhoeddi gan dîm criced dinesig y Tân Cymreig.
Hi sydd ar frig rhestr y batwyr gorau mewn gemau ugain pelawd rhyngwladol ar hyn o bryd, ac mae hi’n ymuno â’i chydwladwragedd Meg Lanning a Jess Jonassen yn nhîm y brifddinas ar gyfer y gystadleuaeth Can Pelen eleni.
Cafodd hi ei henwi’n Chwaraewraig y Twrnament ac yn brif sgoriwr rhediadau Cwpan y Byd T20 yn ddiweddar.
Mae hi’n un o bump o ferched sydd wedi cael eu cyhoeddi gan drefnwyr y gystadleuaeth, ynghyd â Nicola Carey (Northern Superchargers), Ashleigh Gardner (Birmingham Phoenix), Marizanne Kapp (Oval Invincibles) a Chloe Tryon (London Spirit).
‘Cystadleuaeth o safon uchel a byd-eang’
Mae gan bob tîm yr hawl i ddenu tair chwaraewraig o dramor i’r garfan o 15, a bydd y chwaraewyr domestig yn cael eu cadarnhau ym mis Gorffennaf.
Yn ôl Beth Mooney, mae hi wedi cyffroi o gael ymuno â’r gystadleuaeth newydd sbon.
“Mae’n edrych fel pe bai’n datblygu’n gystadleuaeth o safon uchel a byd-eang,” meddai.
“Fel prif hyfforddwr, mae Matthew Mott yn adeiladu tîm cryf iawn yn y Tân Cymreig, ac alla i ddim aros i fynd yno gyda fy nghyd-chwaraewyr newydd.”