Fe fydd plac glas yn cael ei ddadorchuddio heddiw (dydd Mercher, Mawrth 11) yn y fan lle cafodd Iolo Morganwg ei eni.

Ac yntau’n un o arwyr diwylliannol a gwleidyddol mwyaf Cymru, bydd seremoni arbennig ym mhentref Pennon ger Llancarfan ym Mro Morgannwg am ganol dydd.

Daw’r seremoni ar ei ben-blwydd, 273 o flynyddoedd union ers ei eni.

Vaughan Roderick, prif olygydd Materion Cymreig y BBC, fydd yn datgelu’r plac yn swyddogol.

Cyfraniad pwysig

Iolo Morganwg yw enw barddol Edward Williams, saer maen crwydrol, bardd, hanesydd, ymgyrchydd gwleidyddol a sylfaenydd Gorsedd y Beirdd.

Roedd yn un o gymeriadau pwysica’r ddeunawfed ganrif yng Nghymru.

Tŷ modern sydd yn sefyll ar seiliau’r hen fwthyn di-nod lle cafodd Edward Williams ei eni.

Ymgyrch i’w goffáu

Cafodd ymgyrch ei lansio gan Gymdeithas Llancarfan y llynedd i godi plac ar ei gartref, ac maen nhw’n dweud bod yr ymateb wedi bod yn “rhyfeddol”.

“Mae gan y pentref hanes goludog a sawl nodwedd enwog ond, yn rhyfedd, does dim i goffáu gwreiddiau Iolo Morganwg yn Llancarfan,” meddai Gordon Kemp, cadeirydd y gymdeithas.

“Fel Cymdeithas, rydyn ni’n falch iawn i gywiro’r cam, a chawson ni ein syfrdanu gan haelioni’r ymateb.”

Ac yn ôl Vaughan Roderick, dyn i bob tymor oedd Iolo Morganwg.

“Mae gan bob cyfnod ei Iolo ei hun,” meddai.

“O holl gymeriadau disglair y deunawfed ganrif, Iolo yw’r un nad yw wedi ei rewi yn ei gyfnod a’i amser gyda phob cenhedlaeth yn canfod persbectif newydd ar fab mwyaf blaenllaw Morgannwg.

“Mae’n rhyfeddol ei bod wedi cymryd cyhyd i goffáu Iolo yn ei fro ei hun. Dyma unionu cam i un sydd mor fyw o hyd i gynifer o bobl.”

Un arall fydd yn cymryd rhan yn y seremoni yw’r cyn-Archdderwydd T. James Jones, neu Jim Parc Nest, wrth iddo ddarllen rhan o’i awdl fuddugol o Eisteddfod Genedlaethol 2019, ‘Gorwelion’.

“Â’i hunanhyder rhyfeddol, byddai Iolo’n llawn edmygedd at ymdrech Cymry heddiw i ennill hunan-barch i’w gwlad yn y frwydr dros hunanreolaeth,” meddai.

Cynhelir y seremoni dadorchuddio swyddogol i wahoddedigion o flaen Bryn Iolo, lle bydd yr awdur Gareth Thomas hefyd yn darllen o’i lyfr I, Iolo.