Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog pobl i baratoi a chadw llygad ar rybuddion llifogydd gan fod disgwyl rhagor o law trwm yng Nghymru heno (nos Lun, Mawrth 9) ac yfory.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd oren am law trwm.
Gyda lefelau’r dŵr mewn afonydd yn codi yn dilyn stormydd diweddar mae CNC yn disgwyl cyhoeddi rhybuddion llifogydd.
Y llefydd sy’n debygol o gael eu heffeithio fwyaf yw Ceredigion a Phowys. Ac mae rhybudd y gallai trigolion ar hyd Afon Hafren gael llifogydd gydag effaith ar drafnidiaeth yn debygol.
Dywedodd CNC eu bod nhw’n gwneud trefniadau i sicrhau bod amddiffynfeydd llifogydd yn gweithio’n iawn er mwyn lleihau’r risg i bobl sy’n byw gerllaw.