Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi dweud ei fod yn disgwyl gweld rhagor o achosion o’r coronafeirws yn y dyddiau ac wythnosau nesaf.
Mewn cynhadledd newyddion prynhawn ’ma, (dydd Llun, Mawrth 9) bu Vaughan Gething yn annog pobl i gadw at eu harferion hylendid.
Ychwanegodd y bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i “gael ei harwain gan gyngor gwyddonol” ynglŷn â sut i ymateb i ddatblygiad y firws.
Mae trafodaethau hefyd yn parhau, meddai, i ystyried a fydd Cymru yn gallu cynnig cyngor gwahanol i weddill y Deyrnas Unedig ond bod “yn rhaid i ni fod yn glir iawn pa mor effeithiol yw’r gwahanol negeseuon hynny o’i gymharu ag un neges ar gyfer y Deyrnas Unedig y mae pob un o’r pedair llywodraeth yn y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo iddi.”
Pedwerydd person wedi marw
Daw ei sylwadau wedi i ddau achos newydd o’r coronafeirws gael eu cofnodi yng Nghymru heddiw gan ddod a chyfanswm yr achosion i chwech.
Yn y Deyrnas Unedig mae nifer y rhai sydd wedi’i heintio a’r firws wedi cynyddu i 319. Cafwyd cadarnhad prynhawn ma bod pedwerdydd person wedi marw o’r firws. Mae’n debyg bod y person yn ei 70au ac wedi bod yn cael triniaeth mewn ysbyty yn Wolverhampton.
Dywedodd prif swyddog meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, bod y ddau berson diweddaraf i gael eu heintio wedi cael prawf positif ar ôl dychwelyd o’r Eidal yn ddiweddar.
Mae un o’r cleifion yn dod o Gasnewydd ac roedd wedi teithio i ogledd yr Eidal yn ddiweddar, tra bod y person arall wedi dychwelyd i Gastell-nedd Port Talbot o dde’r Eidal. Does dim cysylltiad rhwng y ddau achos.
Disgwyl i gêm Cymru a’r Alban gael ei chynnal
Dywedodd Vaughan Gething nad oedd bwriad gan Lywodraeth Cymru i gau ysgolion neu ohirio digwyddiadau torfol ar hyn o bryd.
Ychwanegodd ei fod yn disgwyl i’r ornest rhwng Cymru a’r Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad gael ei chynnal ddydd Sadwrn (Mawrth 14) a’i fod yn bwriadu mynychu’r gêm.
“Y cyngor gwyddonol ar hyn o bryd yw nad oes unrhyw gyfiawnhad i ni gau ysgolion na gohirio digwyddiadau mawr,” meddai.
Mae’r gêm rhwng Ffrainc ac Iwerddon ar y llaw arall, wedi ei gohirio oherwydd coronafeirws.
Roedd disgwyl i’r gêm gael ei chynnal ym Mharis ddydd Sadwrn (Mawrth 14) ond yn dilyn cyngor gan Lywodraeth Ffrainc, mae hi wedi ei gohirio.