Gallai rhai ardaloedd o Gymru gael gwerth tair wythnos o law mewn dau ddiwrnod, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Mae rhybudd melyn mewn grym dros rannau helaeth o’r wlad, gyda hyd at 90mm o law ar y ffordd yn ystod y ddau ddiwrnod nesaf.

Cafodd Cymru ei heffeithio’n wael yn y llifogydd diweddar gyda nifer o gymunedau’n gorfod delio â difrod mawr.

Ond mae yna fwy o newyddion drwg ar y ffordd, meddai’r Swyddfa Dywydd.

“Bydd hi’n gymharol braf fore dydd Llun ond byddwn yn gweld glaw yn lledaenu o’r gorllewin erbyn y prynhawn,” meddai’r meteorolegydd Greg Dewhurst.

“Yna byddwn yn gweld glaw trwm drwy weddill y dydd, fydd yn parhau dros nos ac yn parhau hyd at ddydd Mawrth.”

Yng Nghymru, mae cyfartaledd glaw ar gyfer mis Mawrth yn 117mm, sy’n golygu y gallai rhai ardaloedd yng Nghymru gael gwerth tair wythnos o law mewn ychydig dros 24 awr.