Fe fydd ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael gwersi Cymraeg am ddim drwy SaySomethinginWelsh, yn dilyn partneriaeth newydd sydd wedi ei chyhoeddi heddiw (dydd Gwener, Mawrth 6).

Mae’r bartneriaeth rhwng Addysg Oedolion Cymru-Adult Learning Wales, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Cymdeithas yr Iaith a SaySomethinginWelsh yn golygu y bydd ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n ymwneud â’r mudiadau yn cael gwersi’r cwmni yn rhad ac am ddim.

O dan y cynllun, mi fydd y mudiadau yn peilota’r cynnig newydd am flwyddyn er mwyn profi ei effeithiolrwydd, gyda nifer cyfyngedig o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gallu cael mynediad at y gwersi i gychwyn. Dros gyfnod y peilot, bydd hyd at 300 o ffoaduriaid yn cael cyfle i gael mynediad at wersi SaySomethinginWelsh yn rhad ac am ddim.

“Diwylliant”

Dywedodd Deborah McCarney o SaySomethinginWelsh: Rydym yn falch iawn i gael y cyfle i gynnig rhywbeth sy’n gallu helpu pobl sydd wedi dod o sefyllfaoedd mor anodd na allwn ni ddychmygu i ymuno â’n cymuned a chymryd rhan ym mhob agwedd ar ein diwylliant. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r bobl gyntaf a fydd yn dysgu Cymraeg gyda ni.”

Dywedodd Andrea Cleaver, Prif Weithredwr Cyngor Ffoaduriaid Cymru: “Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn falch o’i ymagwedd gynhwysol a bydd hybu SaySomethingInWelsh yn galluogi mwy o geiswyr lloches a ffoaduriaid i gael dechreuad gwell yng Nghymru, o ran eu cynnwys yn gymdeithasol ac o ran cyflogadwyedd.”

Galw am newid polisi

Fe fydd y cynnig newydd o wersi Cymraeg am ddim yn cael ei ariannu gan y mudiadau eu hunain; nid oes cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Ychwanegodd Joseff Gnagbo, swyddog rhyngwladol Cymdeithas yr Iaith:

“Mae’r cydweithio newydd hwn yn ychwanegu at y gwaith gwirfoddol pwysig sydd eisoes yn digwydd ar lawr gwlad i estyn y Gymraeg i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.  Dylai fod croeso Cymraeg i bawb sy’n dod i fyw yma. Ar hyn o bryd, mae gwersi Saesneg am ddim i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ledled Cymru, ond mae Gweinidog y Gymraeg Eluned Morgan yn gwrthod darparu gwersi Cymraeg yn yr un modd.

“Mae’n rhaid i’r polisi yna newid os yw Llywodraeth Cymru yn mynd i gadw at addewid i wneud Cymru yn genedl noddfa go iawn. Wedi’r cwbl, nid oes hawl gan geiswyr lloches i weithio, felly sut maen nhw i fod i fforddio gwersi Cymraeg fel arall?”

Dros y misoedd nesaf, mae’r mudiadau yn bwriadu cwrdd i drafod cydweithio ymhellach ar ddatblygu mentrau a pholisïau newydd er mwyn sicrhau bod gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches fwy o hawliau i’r Gymraeg.