A hithau’n 35 mlynedd ers streic fawr y glowyr, bydd digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal ym Mhontardawe i “symud y stori ymlaen i’r genhedlaeth nesaf”.

Ymgais aflwyddiannus oedd y streic i rwystro dirywiad y diwydiant glo, ac mi barodd am flwyddyn gan ddechrau ar Fawrth 6, 1984; a gorffen ar Fawrth 3, 1985.

I nodi hyn oll mi fydd Canolfan Celfyddydau Pontardawe yn cynnal dau sesiwn holi ac ateb a fydd yn croesawu plant y gymuned, yn ogystal â gweddill y gymuned.

Un o’r rheiny a fydd yn cymryd rhan yw Siân James, cyn-Aelod Seneddol Abertawe, ac mae hithau’n croesawu’r cyfle i drosglwyddo’r hanes i’r to nesaf.

Cipio’r cyfle

“Byddwn ar ein colled os na fyddwn ni’n dweud y stori yma yn awr i’r bobol ifanc sydd yn astudio’r adeg yma,” meddai wrth golwg360. “Roedd y streic mor bwysig i’w rhieni a’u teidiau.

“Nawr mae’n rhaid i ni gipio’r cyfle. Mae yna gwr o bobol sy’n dal i fod ar hyd y lle. Mae pobol yn gallu ein holi ni, gofyn, a chlywed am y straeon.

“Felly dw i’n falch iawn bod y gymuned ym Mhontardawe wedi rhoi’r cyfle yma i ni… Rydym ni’n symud y stori ymlaen i’r genhedlaeth nesaf.”

Cyfrannodd Siân James at y gwaith o gynorthwyo’r streicwyr, a chafodd ei phortreadu yn y ffilm Pride – ffilm sy’n sôn am grŵp lesbiaid a phobol hoyw a gynorthwyodd y streicwyr.

Y panel

Bydd ffilm fer yn cael ei dangos cyn y sesiynau holi ac ateb, ac ymhlith y rheiny a fydd ar y panel mae’r cyn-löwr o Abernant, Wayne Pedrick; a’r swyddog undeb, Wayne Thomas.

Jeremy Miles, Aelod Cynulliad Castell-nedd a’r Gweinidog Trosglwyddiad Ewropeaidd, fydd yn cadeirio’r panel.