Cyngor Sir Caerffili yw’r awdurdod lleol diweddaraf i gefnogi cynlluniau’r RSPCA i leddfu’r risg mae tân gwyllt yn ei pheri i anifeiliaid yn yr ardal.
Roedd y cynghorwyr yn unfrydol yn eu cefnogaeth i ysgrifennu at lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i’w hannog i weithredu ar dân gwyllt a’u heffaith ar anifeiliaid.
Mae’r mesur hefyd yn ymgorffori llu o awgrymiadau eraill gan yr RSPCA – gan gynnwys ymgyrch ymwybyddiaeth, hysbysebu arddangosfeydd i helpu pobol ag anifeiliaid i baratoi ac i annog siopau i werthu tân gwyllt mwy distaw.
Daw cyhoeddiad Cyngor Sir Caerffili ar ôl i’r RSPCA lansio’u hymgyrch #BangOutOfOrder – sy’n ceisio gwneud tân gwyllt yn llai dychrynllyd i anifeiliaid, ac amlygu’r her mae anifeiliaid anwes, anifeiliaid fferm a bywyd gwyllt yn ei hwynebu.
Mae cynghorau Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Tâf a Wrecsam hefyd wedi pasio mesurau i annog defnydd cyfrifol o dân gwyllt, tra bod Cyngor Conwy yn bwriadu trafod y mater heno (nos Fercher, Mawrth 4).
‘Gwneud gwahaniaeth’
“Rydym wedi gwirioni bod cynghorwyr Caerffili wedi pleidleisio dros wneud gwahaniaeth i anifeiliaid ledled yr awdurdod lleol,” meddai Lewis Clark, ymgynghorydd materion cyhoeddus yr RSPCA.
“Rydym ni’n derbyn gymaint o alwadau’n ymwneud â gofidion dros anifeiliaid a thân gwyllt – felly mae’r ffaith bod awdurdodau lleol yng Nghymru megis Caerffili yn cyflwyno mesurau i leddfu’r risg mae tân gwyllt yn beri i anifeiliaid yn bwysig i les anifeiliaid.”