Mae data sydd wedi ei gyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn datgelu nad yw 253,424 o weithwyr yng Nghymru – 20% o’r gweithlu – yn derbyn cyfraniad gan gyflogwyr tuag at eu pensiwn gwaith.

Mae cofrestru’n awtomatig ar gyfer pensiwn gwaith mewn grym ers Hydref 2012, ac mae wedi cynyddu canran y gweithwyr yng ngwledydd Prydain sydd â phensiwn gwaith o 47% yn 2012 i 77% yn 2019.

Fodd bynnag, mae miliynau o weithwyr wedi eu heithrio gan nad oes rhaid i gyflogwyr gofrestru staff sy’n ennill llai na £10,00 neu sy’n iau na 22 oed.

Mae’r rheolau hefyd yn eithrio’r £6,136 cyntaf o gyflog wrth gyfrifo’r isafswm cyfraniad ar sail cyflog sydd wedi’i ennill.

Golyga hyn fod gweithwyr sy’n ennill cyflogau isel yn colli allan ar hyd at £300 o gyfraniadau pensiwn gan eu cyflogwyr.

Yn benodol, mae gweithwyr rhan amser mewn risg o golli allan.

Dim ond 58% o weithwyr rhan amser y Deyrnas Unedig sy’n perthyn i gynllun pensiwn gwaith, o’i gymharu â 86% i weithwyr llawn amser.

Golyga hyn fod merched yn cael eu heffeithio’n negyddol, gan eu bod dair gwaith yn fwy tebygol o weithio’n rhan amser na dynion.

Ymateb i’r sefyllfa

Dywed Cyngres yr Undebau Llafur fod angen i weithwyr gyfrannu o leiaf 15% o’u cyflog i fod yn sicr o gael incwm dyledus.

Mae’r Gyngres yn galw ar Lywodraeth Prydain i ddileu’r cyfyngiadau enillion, ac i godi’r isafswm cyfraniad sy’n ofynnol gan gyflogwyr.

“Mae cofrestriad awtomatig wedi helpu nifer fawr o weithwyr i dderbyn cyfraniad pensiwn gan eu cyflogwyr,” meddai Savanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur yng Nghymru.

“Ond mae’r rheolau presennol yn eithrio nifer o weithwyr sy’n ennill cyflogau isel, pobol sydd mewn gwaith ansicr a gweithwyr ifanc, a dyna pam nad oes gan gymaint o bobol yng Nghymru bensiwn gwaith.

“Dim mwy o esgusodion – mae hi’n hen bryd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddod â’r anghyfiawnder yma i ben.”