Bydd dwy o ysgolion y Drenewydd yn cael eu huno i greu ysgol cyfrwng Saesneg ar ôl i Gabinet y cyngor sir gymeradwyo’r cynnig.
Daw hyn wedi cyhoeddiad gan Cyngor Sir Powys bod Ysgol Babanod Ladywell Green ac Ysgol G.G. Hafren yn mynd i gael eu huno.
Clywodd y Cabinet ddoe (dydd Mawrth, 3 Mawrth) na fu unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig ar ôl cyhoeddi’r rhybudd statudol ar gyfer y cynigion.
Bydd yr ysgol newydd yn agor yn 2021 ar safleoedd presennol yr ysgolion.
Ar hyn o bryd, mae 94 o ddisgyblion yn yr ysgol babanod a 145 yn yr ysgol gynradd.
Bydd yr ysgol newydd yn darparu addysg i ddisgyblion rhwng 4 ac 11 oed.
‘Cynnig o fudd’
“Roedd canlyniad yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd y llynedd yn awgrymu mai’r dewis a ffafriwyd oedd uno Ysgol Babanod Ladywell Green ac Ysgol G.G. Hafren a sefydlu ysgol gynradd newydd ar safleoedd presennol y ddwy ysgol,” meddai’r Cynghorydd Phyl Davies, Aelod y Cabinet ar Faterion Addysg.
“Gan na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad i’n cynigion, fe gymeradwyodd y Cabinet yr argymhelliad, fydd yn gweld uno’r ddwy ysgol i greu ysgol gynradd newydd.
“Bydd y cynnig o fudd i’r disgyblion a’r staff dysgu yn yr ysgolion hyn.”