Byddai symud gemau i wasanaeth darlledu talu-yn-unig yn “ddim llai na thrychineb” i rygbi yng Nghymru, yn ôl Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville-Roberts.

Fe fu’n ymateb i’r sïon y gall fod yn rhaid i gefnogwyr rygbi dalu i wylio Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ôl eleni.

Ar hyn o bryd mae’r hawl i ddarlledu’r gemau rygbi wedi ei rhannu rhwng y BBC ac ITV.

Ond mae’n debyg na fydd cais ar y cyd yn cael ei ganiatáu y tro nesaf.

Cyhoeddodd Adam Price ar Twitter dros y penwythnos fod y blaid wedi cysylltu â San Steffan i gyfleu eu hanniddigrwydd am y datblygiadau.

“Mae’n eironi chwerw wrth i ni ddathlu Gwyl Ddewi ein bod ni’n darganfod fod posibilrwydd y byddwn ni’n fuan iawn yn cael ein prisio allan o’n diwylliant ein hunain” meddai Adam Price.

‘Rhan annatod o ddiwylliant a hunaniaeth Cymru’

“Wedi’r cyfan, mae yna lawer yng Nghymru sydd ddim yn gallu fforddio teledu lloeren ac nid yw gwylio’r gemau mewn tafarn bob amser yn bosib i bawb,” meddai Liz Saville-Roberts wrth golwg360.

“Mae’r Chwe Gwlad a’r gêm rygbi ei hun yn rhan annatod o ddiwylliant a hunaniaeth Cymru.

“Galwaf ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i restru gemau’r Chwe Gwlad fel rhan o ‘Grŵp A’, digwyddiad sydd yn warantedig am ddim os gosodir tâl am wylio’r gemau.”