Mae gêm rygbi Cymru yn erbyn yr Alban yng Nghaerdydd ar Fawrth 14 yn un o’r rhai sydd yn y fantol o ganlyniad i’r coronavirus.

Mae’r sefyllfa’n cael ei hadolygu cyn penwythnos mawr ola’r gystadleuaeth.

Yn ôl Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, bydd cyngor prif swyddogion meddygol gwledydd Prydain yn penderfynu yn y pen draw a fydd gemau’n mynd yn eu blaenau.

Dywed trefnwyr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar hyn o bryd y bydd gweddill y gystadleuaeth yn cael ei chynnal, ond maen nhw’n pwysleisio bod y sefyllfa dan ystyriaeth gyson.

Daw’r sylwadau ar ôl i benaethiaid y gystadleuaeth gyfarfod yn Paris ddoe (dydd Llun, Mawrth 2).

Cafodd gêm Iwerddon yn erbyn yr Eidal yn Nulyn ei chanslo’r wythnos ddiwethaf yn dilyn sawl achos sy’n gysylltiedig â gogledd yr Eidal.

Mae disgwyl i gemau dan 20 a’r merched rhwng yr Eidal a Lloegr gael eu symud o’r ardal honno, ond bydd gêm y dynion yn mynd yn ei blaen yn Rhufain, meddai’r awdurdodau.

“Mae’r Chwe Gwlad yn bwriadu cwblhau pob un o’r 15 o gemau ar draws y tair pencampwriaeth pan fydd amser yn caniatáu, ond byddwn yn ymatal rhag gwneud unrhyw gyhoeddiadau am ail-drefnu am y tro wrth i ni barhau i asesu’r sefyllfa.”