Mae hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru, Chris Horsman wedi cyhoeddi ei dîm i wynebu Lloegr ddydd Sadwrn (Mawrth 7).

Mae yna ddau newid i’r tîm gafodd eu trechu gan Ffrainc wyth diwrnod yn ôl.

Bydd partneriaeth newydd yn yr ail-reng gyda Natalia John yn dychwelyd i’r tîm ochr yn ochr â Georgia Evans.

Ac mae Hannah Jones yn dychwelyd i safle’r canolwr, gan greu partneriaeth â Kerin Lake.

“Ry’n ni’n gwybod bydd yr ornest ddydd Sadwrn yn sialens enfawr, Lloegr yw un o’r timau gorau yn y byd ar hyn o bryd, os nad y gorau,” meddai Chris Horsman.

“Roedden ni wastad yn gwybod bod y bencampwriaeth yn mynd i fod yn sialens ac yn dilyn diwrnod anodd yn erbyn Ffrainc, fydd Lloegr ddim yn gêm hawdd chwaith.”

Mae merched Cymru wedi colli pob gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y tymor hwn, gyda’r gêm ddiwethaf yn gorffen 50-0 i Ffrainc.

Cyflwyno 10,000 o ferched i rygbi

 Cafodd y tîm i wynebu Lloegr ei gyhoeddi yn Stadiwm Cwmbrân lle cafodd 400 o ferched ysgol gynradd ddiwrnod o gymryd rhan mewn gweithgareddau rygbi.

Mae’r digwyddiadau “Rookie Rugby” yn gobeithio cyflwyno 10,000 o ferched i rygbi’r tymor hwn, gan ddechrau gydag wythnos o ddigwyddiadau mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru.

Tîm Cymru i wynebu Lloegr:

1. Gwenllian Pyrs 2. Kelsey Jones 3. Cerys Hale 4. Georgia Evans 5. Natalia John 6. Alisha Butchers 7. Bethan Lewis 8. Siwan Lillicrap (capten) 9. Keira Bevan 10. Robyn Wilkins 11. Caitlin Lewis 12. Kerin Lake 13. Hannah Jones 14. Lisa Neumann 15. Kayleigh Powell

Eilyddion: 16. Molly Kelly 17. Cara Hope 18. Ruth Lewis 19. Gwen Crabb 20. Robyn Lock 21. Ffion Lewis 22. Hannah Bluck 23. Lauren Smyth