Mae posibilrwydd y bydd rhaid talu i wylio Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar y teledu wedi i’r cytundeb darlledu presennol ddod i ben y flwyddyn nesaf, yn ôl adroddiadau gan y BBC.
Ar hyn o bryd mae hawl i ddarlledu’r gemau rygbi wedi eu rhannu rhwng y BBC ac ITV. Ond mae’n debyg na fydd cais ar y cyd yn cael ei ganiatáu y tro yma.
Pan gafodd darlledwyr eu gwahodd yn ddiweddar i gynnig am yr hawliau i ddangos gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, roedd yn ymddangos nad oedd modd i’r BBC ac ITV wneud cais ar y cyd i brynu’r hawliau, fel gwnaeth y ddau ddarlledwr y tro diwethaf.
Mae’r BBC ac ITV wedi bod yn talu tua £65 miliwn y flwyddyn i ddangos y gystadleuaeth tan y flwyddyn nesaf. Yn ôl adroddiadau, mae’r ddau ddarlledwr am geisio gwneud cais ar y cyd i gadw’r hawliau, er gwaetha’r rheol newydd.