Mae’r Gymraes Elinor Barker wedi ennill medal aur wrth gynrychioli Prydain yn y ras bwyntiau ym Mhencampwriaeth Seiclo Trac y Byd yn Berlin.
Dyma phumed teitl byd ei gyrfa, a medal aur gyntaf Prydain yn y bencampwriaeth.
Roedd yn berfformiad clodwiw gan y seiclwraig 25 oed, wrth iddi lapio’i gwrthwynebwyr ddwywaith yn ystod y ras er mwyn gorffen ar frig y bencampwriaeth, 16 o bwyntiau ar y blaen i’r Americanes Jennifer Valente.
“Ro’n i’n sicr am ddianc,” meddai ar ôl y ras.
“Wnes i fyth wir deimlo bod yna ymosodiad tyngedfennol ond ar ryw adeg, edrychais i o gwmpas a dim ond dwy neu dair oedd yno, ac fe edrychais i i fyny ac roedd pobol yr holl ffordd i fyny.”
Daw’r fuddugoliaeth bum mis cyn Gemau Olympaidd Tokyo.
Enillodd tîm y merched fedal arian yn ras gwrso’r merched ddydd Iau, ond roedd siom i’r tîm madison ddoe (dydd Sadwrn, Chwefror 29) pan gafodd y Gymraes Neah Evans anffawd gan ddod â gobeithion y tîm o ennill medal i ben.