Mae amheuon y gallai gêm rygbi Ffrainc yn erbyn Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad gael ei gohirio o ganlyniad i’r coronavirus.

Fe ddaw ar ôl i Lywodraeth Ffrainc ddechrau cynllunio er mwyn atal y firws rhag lledu.

 

Ymhlith y camau maen nhw’n eu hystyried mae gwahardd grwpiau o fwy na 5,000 o bobol rhag dod at ei gilydd.

 

Mae’r gêm yn y Stade de France yn ninas Paris wedi’i threfnu ar gyfer dydd Sadwrn, Mawrth 14.

 

Daw’r amheuon yn dilyn cyfarfod o gabinet Llywodraeth Ffrainc.

Mae disgwyl i nifer o gemau chwaraeon gael eu heffeithio.