Un o faneri protest Cymdeithas yr Iaith
Mae prif undeb y newyddiadurwyr wedi beirniadu’r cytundeb rhwng S4C a’r BBC heddiw, gan ddweud fod peryg i’r sianel orfod torri rhagor.
Mae Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr – yr NUJ – wedi tynnu sylw at awgrym yn y cytundeb rhwng y ddau gorff y bydd rhaid i S4C wneud arbedion i greu’r “un lefel o effeithlonrwydd” ag sydd wedi ei ofyn gan BBC Cymru.
Yn gynharach yn y mis, fe gyhoeddodd BBC Cymru y byddai 100 o swyddi yn gorfod cael eu torri er mwyn arbed arian.
Mae Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr yn poeni y gallai’r BBC ofyn yr un math o aberth oddi wrth S4C – fe fydd y Sianel yn atebol i’r Gorfforaeth am ei gwario.
Cystadlu wrth dorri
Yn ôl yr undeb, mae galw am doriadau o’r fath yn debyg o arwain at “anhrefn a digalonni ymhlith staff y ddau sefydliad” wrth iddyn nhw orfod cystadlu â’i gilydd i dorri mwy.
“Mae ein hundeb ni, ynghyd â nifer o undebau a sefydliadau eraill, yn gwneud popeth i ddiogelu ein haelodau rhag yr ‘arbedion’ hyn, sydd mewn gwirionedd yn mynd i arwain at safon llawer is o ddeunydd yn cael ei gynhyrchu gan y BBC ac S4C,” meddai Ken Smith, Cadeirydd Cyngor Gweithrdol yr undeb yng Nghymru.
“Rydyn ni’n gwbl yn erbyn toriadau i swyddi, a rhaglenni, ac yn erbyn gostyngiad yn amodau gwaith staff a gweithwyr llawrydd – yn y BBC, S4C ac mewn cwmniau cynhyrchu annibynnol.”
‘Penderfyniadau anodd’ meddai S4C
Mae S4C yn dweud eu bod nhw “eisoes wedi cyhoeddi a gweithredu nifer o gamau i arbed arian a gwella effeithlonrwydd” – mae hynny’n cynnwys colli 31 o weithwyr trwy ddiswyddo gwirfodol.
Ond mewn datganiad, cyfaddefodd y sianel y byddai “S4C yn wynebu toriad sylweddol yn ei chyllideb dros y blynyddoedd nesaf”.
“Bydd yn rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd er mwyn gwneud yr arbedion angenrheidiol tra’n cynnal safon ein rhaglenni a’n gwasanaeth i’n gwylwyr.
Mae Golwg 360 yn dal i ddisgwyl ymateb gan y BBC.