Roedd Heddlu’r De wedi cyhoeddi digwyddiad difrifol fore heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 29) yn sgil llifogydd dros nos yn y de o ganlyniad i Storm Jorge.

Ond maen nhw bellach yn dweud nad yw’n cael ei ystyried yn ddigwyddiad difrifol.

Fe fu’r gwasanaethau brys, awdurdodau lleol, byrddau iechyd, Cyfoeth Naturiol Cymru a chwmnïau ynni i gyd yn ceisio sicrhau diogelwch a lles y rhai sydd wedi cael eu heffeithio.

Derbyniodd y gwasanaeth tân 72 o alwadau rhwng 6 o’r gloch neithiwr (nos Wener, Chwefror 28) a 6 o’r gloch fore heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 29), a’r achosion gwaethaf unwaith eto yn ardaloedd Pontypridd a Chaerdydd.

Mae’r heddlu’n diolch i’r holl wasanaethau brys a’r cyrff fu’n cydweithio â nhw, gan ddweud bod disgwyl i lefelau afonydd ostwng “cyn bo hir”, ond maen nhw’n rhybuddio am ddŵr ar y ffyrdd ac yn cynghori pobol i beidio â theithio “oni bai bod gwir angen”.

Cyngor

 Mae’r heddlu hefyd wedi cyhoeddi cyngor i bobol sy’n byw mewn ardaloedd lle mae llifogydd, sef:

  • arhoswch dan do oni bai bod gwir angen teithio
  • cadwch draw o beryglon fel afonydd
  • ffoniwch 999 mewn argyfwng, a gadewch i’r gwasanaethau brys ymdrin â pheryglon
  • cadwch lygad ar y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol am y wybodaeth ddiweddaraf