Mae ffilm Bollywood sy’n cynnwys cameos gan Nigel Owens a Phil Bennett am gael ei dangos am y tro cyntaf yng Nghymru.
Ac mae’r cyngor sir lleol yn dweud bod denu criwiau ffilmio i’r ardal yn dod â “manteision economaidd enfawr i’r ardal”.
Bydd premiere Jungle Cry yn Theatr y Ffwrnais yn Llanelli ar Fawrth 10.
Mae’r ffilm yn seiliedig ar stori wir ysbrydoledig am 12 o blant difreintiedig ac amddifad o India, a ddaeth i gystadlu mewn twrnament rygbi ym Mhrydain yn 2007.
Ffilmiwyd y golygfeydd rygbi yng Nghymru, gan gynnwys ym Mharc y Scarlets, Llanelli lle ffilmiwyd gêm derfynol y ffilm.
Mae’n cynnwys cameos gan rai o enwogion y byd chwaraeon, gan gynnwys Nigel Owens, y dyfarnwr rhyngwladol a Phil Bennett, maswr y Scarlets, Cymru a Llewod Prydain, sydd ill dau’n dod o Sir Gaerfyrddin.
“Manteision economaidd enfawr i’r ardal”
“Mae’n fraint cael cynnal premiere Cymru o’r ffilm Jungle Cry yn Y Ffwrnes. Bu’n bleser mawr i ni gefnogi’r gwaith o greu’r ffilm hon, sy’n seiliedig ar stori wir ryfeddol,” meddai’r Cynghorydd Peter Hughes Griffiths sy’n gyfrifol am Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ar Fwrdd Rheoli Cyngor Sir Gaerfyrddin.
“Rydym wedi gweithio’n galed i ddatblygu Sir Gaerfyrddin fel lleoliad ar gyfer cynyrchiadau ffilm a theledu oherwydd y manteision economaidd enfawr i’r ardal yn sgil hynny, fel y gwelsom drwy’r ddrama BBC Un Bore Mercher sydd wedi denu cymaint o ddiddordeb i Dalacharn a Chaerfyrddin.
“Mae’n wych gweld Llanelli yn cael y prif sylw ar y sgrin fel rhan o Jungle Cry. Mae’r diwydiant Bollywood yn enfawr a bydd llawer iawn o ddiddordeb yn y ffilm hon a fydd, gobeithio, yn tynnu sylw’r byd at Sir Gaerfyrddin.”