Mae dyn wnaeth fygwth gyrrwr gyda chyllell fara a mynnu lifft i Lanelli funudau ar ôl iddo ddwyn 200 o sigaréts a thybaco, wedi cael ei ddedfrydu i garchar.
Gwnaeth Patrick Duffy, 26 oed, i’r gyrrwr deimlo fel y basa’n cael ei anafu petai o ddim yn cael pas yn ei gar ar Chwefror 22.
Mae Patrick Duffy wedi cael 52 wythnos yn y carchar ar ôl iddo gyfaddef i ddwyn, ffrwgwd a bod gydag arf mewn man cyhoeddus.
“Roedd hwn yn ddigwyddiad ofnus i’r dioddefwr oedd yn teimlo fod ei ddiogelwch mewn risg,” meddai’r Sarjant Craig Roderick.
“Diolch i ymholiadau cyflym y swyddog yn yr achos, cafodd y troseddwr ei arestio a’i ddedfrydu o fewn deuddydd.”
Rhedeg o siop heb dalu
Roedd Patrick Duffy wedi mynd mewn i siop Premier yn Llwynhendy ac wedi cymryd gwerth £116 o sigaréts a thybaco cyn rhedeg o’r siop heb dalu.
Lawr y stryd, stopiodd gar a gofyn i’r gyrrwr am lifft i ardal Morfa Llanelli, ac er i’r gyrrwr ddweud y gallai ddim ond mynd ag ef mor bell ag Asda, aeth Patrick Duffy i mewn i’r car.
Pan ddywedodd y gyrrwr wrtho mai i Asda yr oedd yn mynd drachefn, dangosodd Patrick Duffy gyllell a dweud “dos a fi i Morfa”.
Dywed y gyrrwr ei fod yn teimlo nad oedd ganddo ddewis ond cydymffurfio.
Wrth i’r car basio Trostre, dywedodd Patrick Duffy wrth y gyrrwr i dynnu drosodd, ac aros amdano.
Dreifiodd y gyrrwr i ffwrdd yn syth, ac roedd yn gallu gweld Patrick Duffy yn rhedeg ar ei ôl , ond sylweddolodd nad oedd ganddo’r gyllell mwyach.
Pan welodd fan heddlu dyma’r gyrrwr yn fflachio ei oleuadau arni cyn adrodd yr hyn oedd wedi digwydd.
Cafodd y gyllell ei darganfod o dan sedd teithiwr ei gar.