Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio pobl am lifogydd heddiw (dydd Gwener, Chwefror 28) a dros y penwythnos wrth i Storm Jorge daro Cymru.
Ac mae rhybudd tywydd melyn mewn grym gan Swyddfa’r Tywydd.
Gallai’r tywydd garw arwain at amgylchiadau peryglus, yn enwedig yn ne Cymru, lle mae disgwyl i afonydd godi’n gyflym.
Gyda lefelau afonydd eisoes yn uchel ar ôl y stormydd diweddar, mae disgwyl rhagor o rybuddion am lifogydd yn hwyrach ymlaen heddiw a thros nos, yn enwedig yn y Cymoedd.
Er bod disgwyl i’r glaw trymaf ddisgyn yn ne Cymru, dylai pobl mewn ardaloedd eraill yng Nghymru baratoi ar gyfer effaith y storm a chadw’n saff.
“A hithau mor fuan ar ôl Storm Dennis, rydym yn ofidus iawn am y rhagolygon o law trwm yn ne Cymru,” meddai Jeremy Parr o Gyfoeth Naturiol Cymru.
“Rydym yn gweithio yn galed i sicrhau bod cymunedau wedi paratoi ac yn annog pobl i gymryd gofal a gwneud trefniadau i aros yn saff.”