Mae Aelod Cynulliad Ceidwadol wedi galw am ymchwiliad i’r “bartneriaeth” rhwng Llywodraeth Cymru ac Aston Martin.
Mae gan y cwmni ceir safle cynhyrchu ym Mro Morgannwg, ac mae Llywodraeth wedi darparu bron i £20m o grantiau iddo.
Ond mae Andrew RT Davies yn ddrwgdybus o’r berthynas rhwng y ddau gorff, a bellach mae wedi dod i’r amlwg bod y cwmni wedi gwneud colled o £104.3m y llynedd.
Mae’r Aelod Cynulliad wedi rhannu’i bryderon am yr adroddiadau ariannol, ac mae wedi galw ar Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad i gynnal ymchwiliad yn ei sgil.
“Rhaid ymchwilio’n llawn”
“Mae wastad elfen o risg wrth fuddsoddi,” meddai. “Ond pan mae arian trethdalwyr ynghlwm â phethau, mae gan y cyhoedd yr hawl i gwestiynu os oes yna werth am arian.
“Mae yn awr yn hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth mae’n gallu i sicrhau bod arian a swyddi trethdalwyr yn cael eu hamddiffyn.
“Pan ddaw at y fath yma o fuddsoddi, mae gan Lywodraeth Cymru hanes lliwgar. Rhaid ymchwilio’n llawn i’w gweithredoedd yn ystod y broses yma…”
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.