Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn galw am ymchwiliad yn y Cynulliad i’r llifogydd.
Maen nhw’n pwyso ar y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ymchwilio i’r llifogydd yn y Rhondda a rôl gwaith sydd wedi’i gwblhau gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn y llifogydd.
Mae’r corff wedi cyfaddef fod cylfat wedi cael ei flocio gan ddarnau o goed oedd wedi cael eu torri, a bod y rheiny wedi cyfrannu at y llifogydd yn ardal Pentre.
“Mae’r llifogydd sydd wedi’u dioddef gan gymunedau de a chanolbarth Cymru wedi bod yn dorcalonnus,” meddai’r Cynghorydd Rodney Berman, prif ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer sedd ranbarthol Canol De Cymru yn y Cynulliad.
“Mae ein meddyliau gyda phawb y mae eu cartrefi a’u cymunedau wedi cael eu dinistrio.
“Roedd y llifogydd hyn o ganlyniad i gwymp law eithriadol, ond rhaid i ni gofio y bydd digwyddiadau tywydd eithriadol yn dod yn fwy cyffredin yn y dyfodol o ganlyniad i newid hinsawdd.
“Rhaid i lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig ddefnyddio’r holl bwerau sydd ganddyn nhw i fynd i’r afael ar frys ag argyfwng yr hinsawdd ac atal llifogydd catastroffig yn y dyfodol.
“Yn y cyfamser, rhaid i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn amddiffynfeydd llifogydd er mwyn gwarchod cymunedau rhag llifogydd yn y dyfodol.”
Cyfoeth Naturiol Cymru
“Mae cwestiynau sylweddol i Gyfoeth Naturiol Cymru eu hateb ynghylch eu rôl yn y llifogydd mae Pentre wedi eu dioddef,” meddai wedyn.
“Dw i’n galw ar Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig i gynnal ymchwiliad.
“Dim ond wedyn y bydd pobol Pentre yn cael yr atebion sydd eu hangen arnyn nhw.
“Dim ond bryd hynny gallwn ni ddysgu’r gwersi sydd angen eu dysgu er mwyn atal llifogydd tebyg yn y dyfodol.”