Mae nifer o wledydd Ewrop wedi cofnodi eu hachosion cyntaf o’r coronavirus.
Mae achosion bellach yn y Swistir, Croatia ac Awstria, sydd ar y ffin â’r Eidal, lle mae’r awdurdodau’n ceisio cadw trefn ar y sefyllfa.
Mae meddyg o’r Eidal hefyd wedi cael prawf positif ar Ynysoedd y Cŵn, lle mae cannoedd o ymwelwyr â gwesty dan gwarantîn.
Mae’r awdurdodau yn Hwngari, Croatia ac Iwerddon yn rhybuddio pobol rhag teithio i’r ardal dan sylw yng ngogledd yr Eidal.
Mae’r awdurdodau’n gwarchod trefi lle mae pobol dan gwarantîn, mae sawl llywodraeth wedi cyhoeddi rhybuddion rhag teithio ac mae teithiau awyr wedi’u canslo mewn sawl gwlad.
Mae 11 o bobol bellach wedi marw o ganlyniad i’r firws yn yr Eidal, sy’n gynnydd o 45% mewn un diwrnod, ac mae 322 o achosion wedi’u cofnodi yno erbyn hyn, a nifer ohonyn nhw y tu allan i rhannau gogleddol y wlad.
Rhannau eraill o’r byd
Mae 144 o achosion newydd yn Ne Corea, sy’n mynd â’r cyfanswm i 977.
Yn ôl yr awdurdodau yno, maen nhw’n wynebu wythnos allweddol yn y frwydr yn erbyn y firws.
Mae nifer o bobol hefyd wedi’u heintio yn Bahrain, gan gynnwys gyrrwr bws sydd wedi bod yn cludo plant i’r ysgol.
Ac mae pennaeth tasglu Iran hefyd wedi cael prawf positif ar ôl bod yn ceisio tawelu ofnau trigolion y wlad am y sefyllfa.
Mae’r awdurdodau yn Japan yn rhybuddio pobol rhag teithio i Dde Corea.
Mae rhybudd hefyd i bobol fod ar eu gwyliadwraeth yn Nenmarc, lle na fu’r un achos eto ond lle mae canolfannau cwarantîn yn cael eu sefydlu rhag ofn.