Mae gwasanaeth ar alw S4C Clic wedi cyrraedd 100,000 o danysgrifwyr.
Dros y misoedd diwethaf, mae S4C wedi bod yn ychwanegu at Clic a’i haddasu mewn i hafan sydd yn cynnig cynnwys adran “ecsgliwsif.”
Mae hyn yn cynnwys bocs sets, dramâu a chynnwys penodol i ddysgwyr ac i blant a phobol ifanc.
Mae modd i ddefnyddwyr greu proffiliau ar gyfer y teulu a chreu rhestr bersonol o raglenni ac i dderbyn e-byst am ddatblygiadau a rhaglenni newydd.
‘Personoleiddio ac ehangu’
“Mae hyn i gyd yn rhan o’n gwaith i bersonoleiddo ac ehangu ein gwasanaeth,” meddai Owen Evans, prif weithredwr S4C.
“Dw i eisiau ein bod ni fel sianel yn gallu cysylltu un wrth un gydag ein cynulleidfa ac ein bod ni’n eu deall a’u galluogi nhw i wylio yn gwmws beth maen nhw eisiau.”
Cafodd y cynllun tanysgrifio ei lansio yn ystod Eisteddfod yr Urdd eleni, ac mae Owen Evans wedi synnu â pha mor gyflym mae’r gwasanaeth wedi cyrraedd 100,000 o danysgrifwyr.
“Rydym yn falch iawn bod cymaint o wylwyr S4C wedi tanysgrifio i’r gwasanaeth Clic ac mae’r ffaith ein bod ni wedi cyrraedd 100,000 o wylwyr mewn cyfnod mor fyr yn syndod mawr i ni – ond yn newyddion da iawn.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ffigurau sy’n dangos faint o bobol sy’n gwylio’r sianel deledu yn benodol.