Dylai’r fyddin fod yn cael eu hanfon i helpu’r cymunedau yng Nghymru sydd wedi eu heffeithio gan y llifogydd, yn ôl Adam Price.
Mae arweinydd Plaid Cymru’n awyddus i Lywodraeth Prydain gofio bod llawer o Gymry wedi “gwasanaethu’n ffyddlon” yn y fyddin yn Irac ac yn Affganistan, ond nad oedden nhw wedi cael eu hanfon i “helpu eu cymunedau eu hunain”.
Daw’r sylw wrth iddo gondemnio Llywodraeth Prydain am beidio ag anfon y fyddin i Gymru fel y gwnaethon nhw yng ngogledd Lloegr.
“Pan gafodd Swydd Efrog ei tharo gan lifogydd difrifol ym mis Gorffennaf, Tachwedd ac eto fis yma, anfonwyd Lluoedd Arfog y DU i’w cynorthwyo dan orchymyn y Prif Weinidog Boris Johnson ei hun,” meddai.
“Mae stormydd yn mynd a dod o dan enwau gwahanol, ond mae’r effaith a’r difrod dychrynllyd mae’n nhw’n ei adael ar eu holau yr un bob tro.
“A thra bod Swydd Efrog yng ngogledd Lloegr yn derbyn cefnogaeth gan y lluoedd wedi’r llifogydd, ni chafodd cymunedau a phobol Cymru yr un cymorth.”
Y difrod yng Nghymru
Bythefnos yn ôl, gwelodd ardaloedd yn ne Cymru fel Pontypridd, Rhondda, Glyn-nedd a Mynwy un o’r llifogydd gwaethaf ers degawdau, gan adael cannoedd o gartrefi a busnesau o dan ddŵr.
Roedd Adam Price hefyd yn feirniadol o’r Prif Weinidog Boris Johnson am beidio â threfnu cyfarfod Cobra i gydlynu’r ymateb i’r llifogydd yma yng Nghymru, ac fe gwestiynodd faint o gymorth roedd Llywodraeth Cymru wedi holi Llywodraeth Prydain amdano o ran anfon milwyr i lawr gwlad.
“Dro ar ôl tro mae cymunedau Cymru yn cael eu trin fel rhywle i’w ôl ystyrio gan y ddau brif blaid yn San Steffan” meddai.
“Pan fydd llifogydd difrifol yn taro Cymru eto, a does dim amheuaeth y gwnawn nhw, mae’n rhaid i’r fyddin gael ei hanfon i mewn i gefnogi ein cymunedau.
“Ddylen nhw ddim cael eu gadael ar ôl i ddelio gyda hyn ar eu pennau eu hunain.”