Mae llys wedi clywed fod Julian Assange, sylfaenydd WikiLeaks, wedi cael ei roi mewn cyffion 11 gwaith a’i ddillad wedi’u tynnu oddi arno ddwy waith ar ddiwrnod ei wrandawiad estraddodi.

Mae’r gŵr 48 oed yn brwydro yn erbyn cael ei estraddodi i’r Unol Daliaethau, lle mae’n wynebu 18 cyhuddiad o ryddhau cannoedd o filoedd o ddogfennau cudd yn 2010 a 2011.

Dywed ei gyfreithiwr, Edward Fitzgerald, ei fod e wedi cael ei gam-drin yng ngharchar Belmarsh.

“Cafodd Julian Assange ei roi mewn cyffion 11 gwaith, ei stripio’n noeth ddwy waith a’i roi mewn pum cell gadw wahanol,” meddai wrth y gwrandawiad.

Dywed fod papurau a gafodd eu rhoi i Julian Assange yn y llys wedi cael eu cymryd oddi wrtho yn Belmarsh ar ôl iddo adael Llys Y Goron Woolwich.

Gallai triniaeth ei gleient fod yn “ddirmyg llys”, yn ôl Edward Fitzgerald.

Ond dywed y Barnwr Vanessa Baraitser nad oes ganddi hi’r grym i roi cyfarwyddyd i’r carchar, ac na all hi weithredu oni bai bod tystiolaeth na all Julian Assange gymryd rhan yn yr achos.

“Os yw hi’n dod i hynny, gadewch i mi wybod os gwelwch yn dda,” meddai.

Hacio a dwyn

Mae Julian Assange wedi cael ei gadw yng ngharchar Belmarsh ers mis Medi ar ddedfryd 50 wythnos am dorri amodau ei fechnïaeth tra’r oedd yn byw yn llysgenhadaeth Ecwador yn Llundain.

Cyrhaeddodd yr adeilad yn 2012 gan osgoi cael ei estraddodi i Sweden dros honiad o drosedd rhyw a gafodd ei ollwng.

Mae Julian Assange wedi cael ei gyhuddo o ddwyn a hacio systemau’r adran amddiffyn cyfrifiadurol, ynghyd â Chelsea Manning, cyn-ddadansoddwr cudd-wybodaeth ym myddin yr Unol Daliaethau.