Fe fydd caniatáu codi 8,835 o dai newydd yn Sir Gaerfyrddin yn “cadw ein pobol ifanc yn eu cymunedau a’u denu nhw yn ôl yma”.
Dyna mae’r Cynghorydd Alun Lenny wedi ei ddweud wrth gylchgrawn Golwg yr wythnos hon, yn dilyn cwynion nad ydy’r cyngor sir lleol wedi gwneud digon i fonitro effaith y tai ar yr iaith Gymraeg.
Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn ymgynghori ar gynnwys ei Gynllun Datblygu Lleol a fyddai yn golygu 580 o dai newydd y flwyddyn yn Sir Gaerfyrddin hyd at 2033.
Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar Fawrth 13, ac wedyn mi fydd y cyngor sir yn paratoi fersiwn derfynol o’r cynllun i’w anfon at Arolygydd Cynllunio Llywodraeth Cymru ar gyfer sêl bendith.
Ond mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am dri mis o amser ychwanegol i gywiro’r hyn maen nhw yn ei ddweud sydd ar goll yn y cynllun, o safbwynt diogelu dyfodol y Gymraeg yn y sir.
“Mae’n ymddangos nad yw’r adran ar y Gymraeg yn orffenedig ac nid oes Asesiad Effaith Iaith yn rhan o’r Cynllun, er ei fod yn cyfeirio at ‘Asesiad Rhagfyr 2019’,” meddai llefarydd y Gymdeithas yn Sir Gaerfyrddin,” meddai Alun Lenny.
Wfftio’r cwynion
Mae Cadeirydd Pwyllgor Cynllunio’r cyngor yn wfftio’r cwynion ac yn pwysleisio fod y Cabinet presennol eisoes yn y broses o newid y cynllun fel bod nifer y tai i’w codi yn y sir yn sylweddol is.
“Mae targed y Cynllun Datblygu Lleol presennol o ddarparu dros 15,000 o dai yn hollol afresymol,” meddai’r Cynghorydd Alun Lenny.
“Dyna’n bennaf pam yr aeth y cyngor yma, o dan arweiniad Plaid Cymru, ati i greu cynllun newydd. Mae’r targed newydd yn llai na 9,000 – a hynny erbyn 2033.
“Bydd y cyfanswm yma’n cynnwys o leiaf 900 o dai cyngor (sy’n cael eu codi am y tro cyntaf ers y 1970au) gyda blaenoriaeth yn cael ei roi i bobl leol, a 1,500 o dai fforddiadwy fydd yn aros yn y stoc dai am byth.”
Dan y Cynllun Datblygu Lleol sy’n cael ei ystyried, byddai unrhyw gais i godi mwy na phump o dai newydd mewn ardal wledig, a deg o dai mewn ardal drefol, yn destun asesiad iaith.
“Diogelu ein hiaith”
Ac mae’r Cynghorydd Alun Lenny yn grediniol bod y cynllun codi tai am roi hwb i’r iaith.
“Mae Cyngor Sir Gâr 100% am ddiogelu ein hiaith a’n diwylliant wrth i ni gynllunio ar gyfer ein prif nod, sef cadw ein pobol ifanc yn eu cymunedau a denu nhw yn ôl yma, trwy hyrwyddo creu swyddi newydd a darparu tai addas, ysgolion, adnoddau hamdden ac ati ar eu cyfer.
“Mae arwyddion pendant yn barod bod mwy a mwy o bobol ifanc yn dychwelyd i’r sir o’r dinasoedd, yn enwedig rhieni ifanc sydd am fagu teulu yma.”
Mwy am y stori hon yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg