Mae’r gwaith glanhau yn parhau mewn gwahanol ardaloedd ar hyd a lled Cymru a gafodd eu taro gan storm Dennis.
Yn sir Gaerfyrddin, mae’r criwiau wedi bod yn clirio malurion a adawyd gan y llifogydd, gyda chontractwyr arbenigol yn dod i mewn i helpu mewn rhai ardaloedd.
Caiff asesiad llawn o’r difrod a achoswyd ei gynnal a bydd archwiliadau o’r ffyrdd, yr ymylon ffyrdd a’r pontydd yr effeithiwyd arnynt ar brif lwybrau yn cael eu cwblhau erbyn diwedd yr wythnos.
Mae Cronfa Gymorth wedi’i sefydlu hefyd ar gyfer trigolion a busnesau y mae angen cymorth ariannol arnynt. Gall pob cartref yn Sir Gaerfyrddin yr effeithiodd y llifogydd arno dderbyn cymorth a chyngor, gyda blaenswm o £200 i’r rhai mwyaf anghenus.
Meddai arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Emlyn Dole: “Hoffwn ddiolch i’r staff sy’n gweithio’n galed yn sgil y storm i glirio’r rhannau hynny o’r Sir yr effeithiwyd arnynt ac sy’n rhoi cyngor a chymorth i breswylwyr a busnesau.”
Cafodd ffyrdd, pontydd, cartrefi a busnesau ym Mhowys hefyd eu heffeithio’n ddrwg wrth i Storm Dennis hyrddio’r sir trwy gydol dydd Sadwrn a dydd Sul gan achosi llifogydd, tirlithriadau a difrod strwythurol ar draws y sir.
“Mae lluniau ar y newyddion cenedlaethol o’r difrod a achoswyd gan y storm wedi bod yn dorcalonnus ac mae ein meddyliau gyda’r trigolion, busnesau ac ymwelwyr sydd wedi’u dal yn y storm,” meddai Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd Rosemarie Harris.
“Wrth i ni geisio gwella pethau, mae’r cyngor sir wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i wneud ei orau glas i helpu.
“Ers y penwythnos, rydym wedi bod yn gweithio gyda phob partner gan gynnwys Heddlu Dyfed Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chymdeithasau Tai ac erbyn hyn rydym yn canolbwyntio ar y gwaith adfer.”