Mae disgwyl i ragor o law trwm ddisgyn yng Nghymru heno, yn enwedig ar dir uchel, wrth i dywydd drwg ein cyrraedd o Fôr yr Iwerydd.
Mae rhybudd melyn am law mewn grym tan ddau o’r gloch bnawn yfory ledled Cymru ac eithrio Siroedd Penfro, Môn a Fflint.
Mae rhagolygon am ragor o wynt a glaw yn y dyddiau nesaf hefyd, er nad oes disgwyl i’r tywydd fod mor ddifrifol â Stormydd Ciara a Dennis.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae 70-100mm o law yn debygol iawn o ddisgyn yn y gogledd-orllewin. Er nad ydyn nhw’n disgwyl cymaint yn y de, mae gwlybaniaeth y tir yno yn peri pryder am lifogydd pellach.
Gostyngodd nifer y rhybuddion llifogydd yn y 24 awr ddiwethaf, ond mae lefelau dŵr wedi parhau i fod yn uchel mewn nifer o ardaloedd.
Mae pum rhybudd llifogydd yn dal mewn grym yng Nghymru – dau ar afon Mynwy, dau ar afon Gwy a’r llall ar afon Dyfrdwy islaw Llangollen. Mae nifer y rhybuddion melyn llifogydd bellach i lawr i bump.
“Mae Storm Dennis wedi hen fynd, ond gyda lefelau dŵr yn parhau i fod yn uchel, mae’r bygythiad o lifogydd dal yn bosibl,” meddai prif ddaroganwr Swyddfa’r Tywydd, Steve Willington.
Yn y cyfamser, mae Rheolwr Tactegol Cyfoeth Naturiol Cymru, Scott Squires, yn addo cadw llygad barcud ar y sefyllfa:
“Wrth i ddŵr y llifogydd gilio a chymunedau ddygymod â’r difrod, byddwn yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol a’r gwasanaethau brys yn yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio,” meddai.
“Dros y dyddiau nesaf bydd ein timau yn chwilio am unrhyw arwyddion o ddifrod i’n hamddiffynfeydd llifogydd, ac yn symud unrhyw rwystrau neu falurion sydd wedi cronni mewn gridiau draen a chylfatiau.”