Mae gwaith atal llifogydd gwerth £700,000 wedi cychwyn yn Felinheli er mwyn diogelu cartrefi a busnesau.
Mae’r prosiect wedi’i ariannu ar y cyd gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru.
Bwriad Cynllun Diogelu Llifogydd Glan y Môr yw darparu gwell amddiffynfeydd i gartrefi, busnesau a’r briffordd rhag llifogydd, yn ogystal â’r risg sy’n dod gyda lefelau’r môr yn codi.
Cwmni adeiladwaith OBR o Dalwrn, Ynys Môn, sydd wedi cael eu dewis i wneud y gwaith.
Roedd i fod i ddechrau ar y safle o ddydd Llun, 10 Chwefror, ond mae effeithiau’r stormydd yn golygu fod y gwaith wedi cael ei symud yn ôl i wythnos nesaf.
Mae’n debyg y bydd y cynllun wedi’i gwblhau erbyn mis Mehefin.
‘Prosiect pwysig’
“Rydw i’n falch iawn fod cyllid wedi ei sicrhau ar gyfer y prosiect pwysig yma yn Felinheli,” meddai’r Cynghorydd Catrin Wager.
“Mae’r ardal yma o’r pentref wedi cael llifogydd o’r Fenai sydd gerllaw ac mae hyn wedi achosi risg i eiddo yn yr ardal.
“Bydd y cynllun yma yn golygu adeiladu morglawdd newydd, wedi’i osod yn ôl o’r draethlin – ochr yn ochr â ffordd Glan y Môr ei hun.
“Mae gwaith i wella draenio ar waelod Ffordd Pen Ceunant hefyd yn rhan o’r prosiect.”