Mae Cyngor Gwynedd wedi agor uned arbenigol newydd ym Mhlas Hedd, Bangor ar gyfer pobol sy’n byw gyda dementia.
Bwriad Uned Aber yw sicrhau darpariaeth bwrpasol ar gyfer pobol sy’n byw gyda dementia yn yr ardal, wrth gynnig gofal arbenigol mor agos â phosib at eu teuluoedd.
Mae’r gwaith uwchraddio ym Mhlas Hedd wedi costio £120,000 gyda rhan o’r cartref wedi’i addasu i allu darparu cymorth arbenigol ar gyfer hyd at saith o bobol sy’n byw gyda dementia.
Mae’r Uned yn cynnwys ‘ystafell seibiant’ sy’n galluogi defnyddwyr i ddod i mewn am hyd at bythefnos er mwyn i’w teuluoedd allu cael seibiant.
“Roedd hi’n braf iawn gweld yr uned arbenigol yma yn agor ym Mhlas Hedd,” meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, sy’n aelod o gabinet Cyngor Gwynedd.
“Mae’r buddsoddiad yma yn rhan o’n gweledigaeth o weithio gyda phartneriaid yn y maes iechyd i gynnig gwasanaethau gofal arbenigol i bobl â chyflyrau fel dementia o fewn eu cymunedau ac mor agos ag sy’n bosib at deulu a ffrindiau.
“Yn y gorffennol, mae pobl yn aml wedi gorfod gadael eu bro i gael gofal, ond rydw i’n falch ein bod yn gallu ymateb i’r awydd am ofal dementia yn fwy lleol, ac y bydd ardal Bangor yn elwa.”