Mae cynghorydd Pontypridd wedi cyhoeddi fideo ar Twitter yn mynegi pryder am drigolion y dref yn sgil llifogydd sydd wedi cael eu hachosi gan Storm Dennis.

Mae strydoedd a cherbydau dan ddŵr, ac mae Heledd Fychan yn dweud mewn fideo ar dudalen Twitter Plaid Cymru ei bod hi’n gofidio am bobol sy’n byw yno.

“Mae’n erchyll yma yn Berw Road bore ’ma,” meddai.

“Mae pethau wedi gwella i be’ oeddan nhw yn oriau mân y bore ond dal, mae ’na ddŵr mewn nifer o dai yma yn Berw Road.

“Dach chi’n gweld fan hyn ar hyd yr afon, mae’r wal wedi mynd mewn dau o lefydd sy’n helpu i gael y dŵr allan o’r tai.

“Mae ’na rai pobol yn methu cael allan o’u tai ar y funud, pobol yn aros i fyny’r grisiau, dim trydan.

“Dw i’n trio cael y cyngor allan i’w helpu nhw cyn gynted â phosib.

“Oes dach chi wedi cael eich effeithio neu’n poeni am unrhyw un, plis cysylltwch efo fi drwy Facebook neu ar fy rhif ffôn.”