Y band Gwilym o Wynedd a Môn oedd prif enillwyr Gwobrau’r Selar yn Aberystwyth neithiwr (nos Sadwrn, Chwefror 15), a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol.
Enillon nhw dair gwobr i gyd, sef gwobr y Gân Orau (\Neidia/), y Fideo Gorau (Gwalia) a gwobr y Band Gorau.
Cafodd 13 o wobrau eu dyfarnu dros y penwythnos.
Fleur De Lys gipiodd y wobr am y Record Hir Orau (O Mi Awn am Dro), a Papur Wal enillodd yn y categori Record Fer Orau (Lle yn y Byd Mae Hyn?).
Elis Derby ddaeth i’r brig fel Artist Unigol Gorau’r flwyddyn, a Tafwyl yn cipio’r wobr am y Digwyddiad Byw Gorau.
Clwb Ifor Bach gafodd ei enwi’n Hyrwyddwr Annibynnol Gorau.
Perfformiadau’r penwythnos
Dechreuodd y penwythnos ar nos Iau (Chwefror 13), gyda noson i ddathlu gyrfa Gruff Rhys, enillydd y wobr Cyfraniad Arbennig.
Cafwyd dwy noson o berfformiadau byw wedyn gan fandiau ac artistiaid mwyaf poblogaidd y flwyddyn, gyda Gwilym a Fleur de Lys ymhlith prif artistiaid nos Wener, ynghyd â Lewys, Elis Derby a Dienw.
Slacyr, Los Blancos, 3 Hwr Doeth, Eadyth, Papur Wal a Kim Hon oedd yn perfformio neithiwr.
‘Penwythnos cofiadwy arall’
“Mae wedi bod yn benwythnos cofiadwy arall wrth i ni ddathlu llwyddiannau cerddorol y flwyddyn a fu,” meddai Owain Schiavone, Uwch Olygydd Y Selar a threfnydd Gwobrau’r Selar.
“Prif syniad y Gwobrau ydy rhoi esgus da i ni gynnal clamp o gig a pharti ym mis Chwefror bob blwyddyn gyda llwyth o artistiaid gwych yn perfformio.
“Ond mae hefyd yn amlwg bod yr enillwyr, a’r rhai sy’n cyrraedd y rhestrau byrion hefyd, wir yn gwerthfawrogi’r ffaith bod y cyhoedd yn pleidleisio drostynt ac yn gwerthfawrogi eu gwaith.
“Mae’r digwyddiad byw yn mynd ers wyth mlynedd bellach, ac mae wedi bod yn ddifyr gwylio’r shifft yn y sîn gydag artistiaid newydd yn creu argraff bob blwyddyn, a’r amrywiaeth sydd gennym yn ehangu’n gyson.
“Gobeithio fod y digwyddiad yn cynnig llwyfan addas i hynny mewn sawl ffordd.”
Enillwyr Gwobrau’r Selar 2019
Cân Orau (Noddir gan PRS): – \Neidia/ – Gwilym
Hyrwyddwr Annibynnol Gorau (Noddir gan Technegol): – Clwb Ifor Bach
Gwaith Celf Gorau (Noddir gan Y Lolfa): – Chawn Beanz – Pasta Hull
Cyflwynydd Gorau (Noddir gan Heno): Tudur Owen
Artist Unigol Gorau (Noddir gan Rownd a Rownd): Elis Derby
Band neu Artist Newydd (Noddir gan Gorwelion): Kim Hon
Record Fer Orau (Noddir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg): Lle yn y Byd Mae Hyn? – Papur Wal
Fideo Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan Hansh): Gwalia – Gwilym
Digwyddiad Byw Gorau (Noddir gan Tinopolis): Tafwyl
Seren y Sin (Noddir gan Lŵp): Yws Gwynedd
Record Hir Orau (Noddir gan Diogel): O Mi Awn am Dro – Fleur de Lys
Band Gorau (Noddir gan Brifysgol Aberystwyth): Gwilym
Gwobr Cyfraniad Arbennig (Noddir gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant): Gruff Rhys