Mae’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams wedi cyhoeddi y bydd colegau addysg bellach yng Nghymru yn derbyn cyllid ychwanegol o £23 miliwn.
Bydd yr arian ychwanegol yn cynnwys.
- £6 miliwn yn cyfrannu at 2.75% o godiad cyflog i staff colegau er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr un cyflog ag athrawon ysgol
- £2 filiwn i wella’r gefnogaeth mae’r colegau yn ei roi i iechyd meddwl a lles y myfyrwyr a’r staff
- £10 miliwn i barhau â’r gronfa Datblygu Sgiliau sydd yn help colegau i leihau’r bylchau mewn sgiliau yn eu gweithleoedd lleol
- £5 miliwn i alluogi colegau i fuddsoddi yn natblygiad proffesiynol eu staff.
Mewn wneud ei chyhoeddiad heddiw, dywedodd Kirsty Williams;
“Mae ein colegau addysg bellach yn chwarae rhan allweddol mewn addysg ar ôl 16 yn ein trefi a’n dinasoedd ledled Cymru, yn ogystal ag amrywiaeth eang o wasanaethau a chyfleoedd am swyddi maen nhw’n ei gynnig i gymunedau lleol.
“Mae sicrhau fod myfyrwyr o bob oed yn cael mynediad i gefnogaeth iechyd meddwl yn un o fy mlaenoriaethau ac rydw i’n falch ein bod yn darparu cyllid ychwanegol i golegau i ddatblygu eu gwasanaeth gefnogol.”
“Mae hefyd yn egwyddor bwysig i mi fod staff Addysg Bellach yn derbyn cyflog cyfartal i athrawon ysgol, felly rwy’n hapus dros ben fod y codiad cyflog yma eleni wedi ei gytuno.”