Mae Cyngor Sir Powys wedi rhoi enw dwyieithog ar amgueddfa a llyfrgell integredig yn y Trallwng.

Daw’r newyddion am Y Lanfa / The Wharf wrth i’r gwaith o gynnwys llyfrgell y dref yn adeilad Amgueddfa Powysland ddod i ben.

Mae’r gwaith yn rhan o brosiect eiddo ehangach sy’n ceisio darparu rhagor o gymorth a llety i bobol hŷn yn y dref.

Y feddylfryd y tu ôl i enw Y Lanfa / The Wharf yw talu teyrnged i leoliad hanesyddol yr adeilad ger y gamlas.

Mae logo’r adeilad newydd wedi cael ei ddylunio’n wirfoddol gan ddylunydd graffig o Awstralia, Catalina Lara, sy’n chwaer yng nghyfraith i reolwr cynorthwyol y cyfleuster, Emily Claxton.

Bydd y llyfrgell yn cau ei drysau yn ei lleoliad presennol ddydd Sadwrn (Mawrth 14) ac mae disgwyl iddi agor eto ddydd Llun, Mawrth 30.

‘Mwy o weithgareddau a digwyddiadau’

“Bydd integreiddio gwasanaethau’r llyfrgell a’r amgueddfa mewn un adeilad yn galluogi’r ddau wasanaeth i agor lle ar y cyd ar gyfer llawer mwy o weithgareddau a digwyddiadau,” meddai Rachel Powell, Aelod Cabinet y Cyngor â chyfrifoldeb dros Ddiwylliant.

“Mae cyfuno mannau diwylliannol, yn rhoi’r cyfle i godi ymwybyddiaeth o arteffactau’r Amgueddfa yn ogystal ag annog ffocws ar lythrennedd.”