Mae Llŷr Gruffydd, Aelod Cynulliad Plaid Cymru, wedi beirniadu “safonau dwbl” Llywodraeth Lafur Cymru.
Daw ymateb Llŷr Gruffydd wedi iddi ddod i’r amlwg fod y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip yn y Llywodraeth Lafur, Jane Hutt wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn cau ward o fewn Ysbyty’r Barri.
Ym mis Medi, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Cymoedd eu bod yn ystyried cau ward Sam Davies yn Ysbyty’r Barri, sydd a 23 o wlâu ac yn bennaf i gleifion oedrannus.
Bwriad y cau yw i leihau cyfnodau hir diangen yn yr ysbyty i gleifion.
“Prif Chwip Llafur yn ymgyrchu yn erbyn polisïau iechyd ei llywodraeth Lafur ei hun. Shambls,” meddai.
“Peidiwch ag ailethol y gwleidyddion yma yn 2021.
“A fedrwch chi ddim ymddiried yn y Torïaid chwaith, gan eu bod nhw eisiau preifateiddio’r BIC.”
Pryderon
Un bwriad hirdymor Llywodraeth Cymru yw darparu mwy o ofal i gleifion y tu hwnt i’r ysbyty.
Ond mynegodd Jane Hutt ei phryderon ar ei gwefan haf diwethaf gan ddweud ei bod yn “bryderus iawn” o glywed am y cynnig i gau’r ward, sydd o fewn ei hetholaeth hi, ac y byddai’n “parhau i gyflwyno’i hachos” i’w gadw.
Lluniwyd deiseb yn gwrthwynebu’r cynlluniau gan ‘Unison’ a gwelwyd Jane Hutt ochr yn ochr â’r ymgyrchwyr y tu allan i’r Senedd ym mis Hydref.
Mae golwg360 wedi gofyn i Llŷr Gruffydd am ymateb pellach i’w sylwadau, ac i Jane Hutt am ymateb.